Overview
Byddwch yn gyfrifol am roi cyngor cyfreithiol arbenigol i’r Brifysgol yn y rôl hon. Mae’r meysydd arbenigol y mae’r gwasanaethau cyfreithiol yn gyfrifol amdanynt yn cynnwys contractau masnachol, cyfraith elusennau, ymgyfreitha sifil, cyflogaeth, eiddo deallusol, cyfraith eiddo (ystadau) a thelerau ac amodau.
Client Details
Ydych chi’n Gyfreithiwr neu’n Fargyfreithiwr sy’n chwilio am y cyfle i ymuno â thîm bach, prysur a chefnogol mewn sefydliad sydd ar flaen y gad o ran newid bywydau?
Mae Prifysgol Caerdydd yn brifysgol Grŵp Russell sy’n darparu rhagoriaeth ym meysydd addysgu ac ymchwil, gan gynorthwyo myfyrwyr a chymdeithas i ffynnu. Mae ein strategaeth newydd – ‘Gyda’n Gilydd, Gallwn Ni’ – yn uchelgeisiol ynglŷn â’n heffaith a’n lle yng Nghymru a’r byd, ac mae ystod o ddatblygiadau cyffrous newydd ar y gweill, gan gynnwys Prifysgol Caerdydd Kazakhstan.
Os ydych chi’n gyfreithiwr ar hyn o bryd sy’n mwynhau gweithio yn rhan o dîm mewnol deinamig ac yn meithrin perthnasoedd gwych â rhanddeiliaid, hoffem glywed gennych chi.
Description
Dyletswyddau Cyfreithiol Craidd:
· Rhoi cyngor cyfreithiol o ansawdd uchel a fydd yn cael effaith ar draws y sefydliad, gan sicrhau cydymffurfiaeth â newidiadau cyfreithiol a rheoleiddiol.
· Drafftio, adolygu, a thrafod ystod eang o ddogfennau cyfreithiol gan gynnwys contractau masnachol, cydweithrediadau academaidd, cytundebau ymgynghori, contractau adeiladu, cytundebau tenantiaeth/trwyddedau, a threfniadau contractwyr.
· Cynghori ar faterion eiddo deallusol (e.e. hawlfraint, nodau masnach, enwau parthau), gan gynnwys canllawiau rhagarweiniol a chofrestriadau ffurfiol.
· Cynorthwyo apeliadau a chwynion myfyrwyr o safbwynt cyfreithiol.
· Arwain prosiectau cydymffurfiaeth gyfreithiol, rheoli timau prosiect, a pharatoi strategaethau i liniaru risgiau cyfreithiol.
· Ymchwilio i faterion cyfreithiol cymhleth, paratoi adroddiadau argymhellion, a sicrhau cyfrinachedd a chyfreithlondeb.
· Datblygu a gwella prosesau a gwasanaethau cyfreithiol ar draws y Brifysgol.
Dyletswyddau Strategol a Chydweithredol:
· Cynghori uwch-staff ar risgiau cyfreithiol a chyfrannu at ddatblygu polisïau.
· Meithrin perthynas ag adrannau mewnol a chyrff cyfreithiol allanol.
· Creu ac arwain gweithgorau i gyflawni amcanion sefydliadol.
· Dylunio a chyflwyno hyfforddiant cyfreithiol sydd wedi’i deilwra i gynulleidfaoedd amrywiol.
Datblygiad Proffesiynol a Dyletswyddau Cyffredinol:
· Bod yn ymwybodol o newidiadau cyfreithiol ac yn y sector drwy Ddatblygiad Proffesiynol Parhaus.
· Cynnal cyfrinachedd a chadw at bolisïau’r Brifysgol.
· Cyflawni dyletswyddau ychwanegol sy’n cyd-fynd â’r rôl yn ôl yr angen.
Profile
Cymwysterau Hanfodol:
· Cyfreithiwr neu fargyfreithiwr cymwys yng Nghymru a Lloegr
Arbenigedd Cyfreithiol:
· Profiad helaeth ar ôl cymhwyso ym meysydd Cyfraith Fasnachol, Ymgyfreitha Sifil, Cyflogaeth, neu Gyfraith Gyhoeddus/Rheoleiddio.
· Sgiliau cyfreithiol cryf: drafftio, ymchwilio, negodi, eirio a chyfweld.
· Dealltwriaeth gadarn o gyd-destunau rheoledig a chydymffurfiaeth gyfreithiol.
· Cyfathrebu a Chydweithio:
· Y gallu i ddylanwadu ar benderfyniadau strategol a meithrin perthnasoedd ar draws pob lefel.
· Y gallu i gyfathrebu cysyniadau cyfreithiol cymhleth yn glir ac yn broffesiynol.
· Ymrwymiad i wella gwasanaethau ac ymateb i adborth.
· Y gallu i weithio ar y cyd a chyfrannu at ddatblygiad hirdymor drwy rwydweithio.
Cynllunio a Datrys Problemau:
· Y gallu i ddatrys problemau mewn ffyrdd creadigol ac ymarferol drwy ddefnyddio sgiliau ymchwil a dadansoddi cryf.
· Dealltwriaeth gyfredol o ddatblygiadau cyfreithiol mewn disgyblaethau perthnasol.
· Y gallu i reoli prosiectau ac arwain timau tymor byr.
· Y gallu i ymdopi â llwythi gwaith heriol yn seiliedig ar ddyddiadau cau, ochr yn ochr â chynnal ffocws ar gleientiaid.
Nodweddion Dymunol:
· Profiad o reoli llinell, gan gynnwys datblygu staff a goruchwylio lles.
· Profiad ym maes Addysg Uwch neu lywodraethu AU.
· Gwybodaeth gyfreithiol eang, gan gynnwys Cyfraith Elusennau.
· Parodrwydd i ddysgu Cymraeg (ysgrifenedig a llafar)
Job Offer
Gellir cynnig y swyddi penagored hyn ar sail gweithio cyfunol, gan gynnwys oriau cywasgedig neu ran-amser (o leiaf 0.8 CALl) yn amodol ar gytundeb. Felly, yn ogystal â threulio amser yn gweithio ar y campws ar gyfer cyfarfodydd y tîm neu Swyddfa Ysgrifennydd y Brifysgol neu faterion eraill yn ôl yr angen (tua dau ddiwrnod y mis, ond mae’n amrywio), cewch hefyd ddewis treulio peth amser yn gweithio o leoliad arall, e.e. gartref. Mae’r Brifysgol wedi ymrwymo i gynnig yr hyblygrwydd hwn pan fo’r swydd ac anghenion y busnes yn caniatáu hynny, gan gynorthwyo’r cydbwysedd rhwng eich gwaith a’ch bywyd personol.
Mae Prifysgol Caerdydd yn cynnig llawer o fuddion rhagorol, gan gynnwys 37 diwrnod o wyliau blynyddol (yn ogystal â gwyliau banc), pro-rata ar gyfer rhan amser, cynllun pensiwn lleol, gweithio cyfunol (sy’n golygu y gallech weithio gartref am beth o’ch amser, yn dibynnu ar anghenion busnes), cynllun beicio i’r gwaith a chynlluniau teithio eraill, cynyddiadau blynyddol i fyny’r raddfa gyflog, a mwy. Mae’n lle cyffrous a bywiog i weithio – mewn prifddinas amrywiol a bywiog – ac mae’n gefnogwr balch o’r Cyflog Byw.